Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Mai 2017
Amser: 09.00 -
10.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4211
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) David Melding AC (yn lle Janet Finch-Saunders AC) Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Jeremy Miles AC (yn lle Rhianon Passmore AC) Jenny Rathbone AC Huw Irranca-Davies AC (yn lle Joyce Watson AC) |
Tystion: |
Carl Sargeant AC John G Rees, Llywodraeth Cymru Katie Wilson, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC, Rhianon Passmore AC, Joyce Watson AC a Gareth Bennett AC. Roedd David Melding AC, Jeremy Miles AC, Huw Irranca-Davies AC yn dirprwyo ar ran Janet, Rhianon a Joyce yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
· John G Rees, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru
· Katie Wilson, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru
2.2. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu:
· nifer yr eiddo y mae'n debygol y bydd y cyfyngiadau arfaethedig ar anheddau sy'n cael eu gosod o'r newydd yn effeithio arnynt, a
· manylion y broses ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch diddymu cyn cyflwyno'r Bil.
3.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog mewn perthynas â thlodi.
3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) i lywio ei adroddiad drafft a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant am y materion a godwyd yn ystod y sesiwn.